Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Tachwedd 2019
Amser:
13.00 -
16.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5628
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Ifan Evans, Llywodraeth Cymru Andrew Griffiths, NHS Wales Informatics Service (NWIS) Becky Favager, Cyfoeth Naturiol Cymru John Fry, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mark Jeffs |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.
1.3 Cafwyd datganiad o fuddiant gan Rhianon Passmore AC ar gyfer Eitem 3 gan fod ei phartner yn un o gyflogeion Thales Group, sef cwmni seiberddiogelwch.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Fel rhan o'r gwaith o fonitro'r mater hwn, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor.
3.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall i:
· rannu manyleb swydd y Prif Swyddog Digidol pan fydd wedi'i chwblhau a rhoi gwybod am yr ymgeisydd llwyddiannus pan fydd wedi'i benodi;
· archwilio argaeledd Fy Iechyd Ar-lein pan fo meddygfeydd yn uno; a
· sicrhau bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gaffael systemau gwybodeg meddygon teulu ar ôl canslo'r contract yn ddiweddar.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Reoli Gwastraff.
4.2 Cytunodd Becky Favager i ymchwilio i'r mater a godwyd ynghylch technoleg fodiwlaidd wasgaredig a sut y gellir defnyddio hydrogen fel ffynhonnell ynni ar gyfer cerbydau trydan.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad fel rhan o’r gwaith o benderfynu pa eitemau i'w cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor.